|
1,2,3,4,(5),6,7,8,11; 1,3,4,5,6,11; 1,3,4,7,5,6,11,12; 1,3,5,6,11,8; 1,3,6; 1,6,9,10,13.
Iesu, 'Mrenin mawr a'm Priod,
Bydd wrth raid / Imi'n blaid
I orchfygu pechod.
Ti fu troswyf yn dyferu
Chwys a gwaed, / 'Lawr i'th draed,
Ynddo gad i'm olchi.
Tra f'wy'n trigo'n yr anialwch,
Gwel'd yn wir / D'wyneb pur,
Yw fy ngwir ddyddanwch.
Tua Salem euraid arwain
F'enaid llaith / Ar ei daith,
Nes bo 'ngwaith yn gorffen.
Iesu, eisoes e'st a'm calon,
F'enaid cu'n / Llechu sy'n
Ddifrad rhwng dy ddwyfron.
Par im' aros mwy'n dy freichiau,
Boed fy nyth, / Ddedwydd fyth,
Yn dy ddilyth glwyfau.
N'âd i'r gyfrwys ddraig fy nhwyllo
Ar un llaw, / Yma a thraw,
Oddi wrthyt i ymado.
Nertha'm traed blinedig ddringad,
Fyny o hyd, / Maes o'r byd
Nes i'r nef im' ddwad.
Hiraeth sy ar fy nghalon dyner,
Wel'd y dydd, / Fyn'd yn rhydd,
Maes o'm poen a'm blinder.
Gwna fi farw, farw'n ddiau,
Marw i'r byd, / 'Nawr yn nghyd,
A'i holl wael bleserau.
Pan fwy'n sengi llwybrau angau,
Rhag pob braw / Rho dy law;
Dangos im dy glwyfau.
Iesu! helpa f'enaid ddringo
'N awr i'r làn / Tua'r màn
Y câf byth breswylio.
Gwynfyd a f'ai heddyw'n canu,
'Mhlith y llu, / Sanctaidd fry,
Sydd wedi gorchfygu.
Nes bo 'ngwaith :: Nes bo'm gwaith F'enaid cu'n / Llechu sy'n / :: F'enaid cu, / Yn llechu sy' / 'N
Iesu 'Mrenin mawr a' Mrïod,
Yn erbyn llu, / Bydd o'm tu,
I orchfygu pechod.
Pâr i'm aros mwy'n dy freichiau,
Boed fy nyth, / Ddedwydd fyth,
Yn dy ddilyth glwyfau.
Hiraeth sy' arnai yn ngwlad y nychdod,
Wel'd y dydd, / Fyn'd yn rhydd,
O'm cystudd a'm trallod.
Os gelynion 'ddaw i'm denu,
Gwna i mi'n ddwys, / Roi fy mhwys,
I orphwys ar yr IESU.
Heddyw rhof fy mhwys ar ddwyfron,
IESU gwiw, / 'M Tywysog yw,
Rhag pob rhyw elynion.
Uwch creaduriaid, IESU cadw,
Fy enaid llon, / Ger dy fron,
Dirion nes fy marw.
Pan bwy'n sengyd llwybrau angeu,
Rhag pob braw / Rho dy law,
Yna ni ddaw ofnau.
Gwel dy anwyl ŵyn yn 'madael,
Bydd wrth raid, / I ni'n blaid,
O Arglwydd paid a'n gadael.
William Williams 1717-91
Tonau[8335]: gwelir: Deffro f'enaid deffro'n ufudd D'wed a gaf fi wel'd dysgleirdeb Heddyw rho'f fy mhwys ar ddwyfron |
Jesus, my great King and my Spouse,
Be in need / On my side
To overcome sin.
Thou didst shed for me
Sweat and blood, / Down to thy feet,
In it let me wash myself.
While I am climbing in the desert,
To see truly / Thy pure face,
Is my true comfort.
Towards golden Salem lead
My timid soul / On its journey,
Until the work be finished.
Jesus, already thou hast taken my heart,
My dear soul / Lurking is
Guilelessly thee between thy breasts.
Cause me to stay evermore in thy arms,
May my nest be, / Happily forever,
In thy unfailing wounds.
Do not let the crafty dragon deceive me
On either hand, / Here and there,
From thee to depart.
Strengthen my exhausted feet to climb,
Up always, / Out of the world
Until to heaven I come.
A longing is upon my tender heart,
To see thy day, / To go free,
Out of my pain and my weariness.
Make me die, die undoubtedly,
Die to the world, / Now altogether,
And all its base pleasures.
When I am treading the paths of death,
From every terror / Give thy hand;
Show me thy wounds.
Jesus, help my soul to climb
Now up / Towards the place
Where I may forever reside.
Blessed it would be today to be singing,
Amongst the holy, / Throng above,
Who have overcome.
:: ::
Jesus my great King and my Spouse,
Against a host, / Be on my side,
To overcome sin.
Cause me to abide evermore in thy arms,
May my nest me, / Happily forever,
In thy unfailing wounds.
A longing I have in the land of sickness,
To see the day, / To go free,
From my affliction and my trouble.
If enemies come to attract me,
Make me intent, / To lean,
To rest on JESUS.
Today I lean on the breast,
Of worthy JESUS, / My Prince he is,
Against all kinds of enemy.
Above creatures, JESUS keep,
My cheerful soul, / Before thy tender
Breast until I die.
When I am treading the paths of death,
Against every terror / Give thy hand,
There shall come no fears.
See thy dear lambs departing,
Be in need, / On our side,
O Lord do not leave us.
tr. 2016,21 Richard B Gillion
|
|